Gwefus…
yn rhoi llais i chi trwy iaith a ffilm
Sefydlwyd y cwmni Gwefus gan Llinos
Griffin yn 2014 er mwyn dod â'i holl
brofiadau gwaith ynghyd gan gyfuno'r
lleol a'r rhyngwladol.
Iaith
Gyda dros 15 mlynedd o brofiad dysgu ieithoedd ac
ysgrifennu cyrsiau, dan ni'n cynnig sesiynau Cymraeg
ar Skype ac wyneb-yn-wyneb yn safle godidog Gwaith
Powdwr ym Mhenrhyndeudraeth, yn tiwtora Ffrangeg a
Sbaeneg yn ogystal â chynnig gwasanaethau cyfieithu.
Ffilm
Mae Gwefus wedi cynhyrchu degau o ffilmiau
cymunedol ac hyrwyddol i fusnesau a sefydliadau lleol
gyda'r ffocws ar roi llais i bobl gogledd Cymru.
Prosiectau
Ers 10 mlynedd, mae Gwefus wedi cynnig help llaw i
fusnesau bychain yn ogystal â grwpiau cymunedol a
chreadigol. O guradu gŵyl i gydlynu prosiectau celf, o
ymgysylltu a ymgynghori yn ei chymuned leol yng
Ngwynedd.
Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LY | 07443 656271 |
gwefus.cymru@gmail.com |
www.gwefus.com
Dilynwch Ni / Follow us: