Yn ogystal â chyfieithu, ysgrifennu datganiadau i’r wasg ac adolygiadau, mae Llinos yn datblygu syniadau o fewn ei chymuned leol yn gyson. Ymhlith y rhain mae:Ionawr – Rhagfyr 2024: Ymgynghorydd Cymunedol Cyfeillion Croesor: ymgynghori gyda'r gymuned leol a chreu astudiaeth ddichonoldeb am sut i ddatblygu a gwneud gwell defnydd o asedau Cyfeillion Croesor er budd y gymuned, yr economi leol, treftadaeth yr ardal a chynaladwyeddMai – Rhagfyr 2024: Cydlynu prosiect 'Lleisiau'r Llofnodion: Merched Eifionydd': dod â chasgliad o 11 stori rhyfel a heddwch ddoe a heddiw wedi'u sbarduno gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 ynghyd. I'w cyhoeddi mewn print ac ar y we. Cyllidwyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru2021 – 2022: Cydlynu prosiect dehongli a cherflun coffa: yng Ngwaith Powdwr, Penrhyndeudraeth i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/nature-reserves/gwarchodfa-natur-gwaith-powdwr 2021 - 2022: Cydlynu Utopias Bach Penrhyn: grŵp a gweithgareddau celfyddydol ar gyfer y gymuned gyfan yn sgil covid 19 ac hunan-ynysu https://www.utopiasbach.org/penrhyndeudraeth-ar-cylch 2020: Sefydlu BywBod: menter annibynnol i fusnesau bach yr ardal er mwyn hyrwyddo cynnyrch a phrofiadau yng Nghroesor, Llanfrothen a Phenrhyndeudraethhttps://www.byw-bod.cymru/2020: Curadu Gŵyl Gwrthsafiad: gŵyl gelfyddydol-wleidyddol ar ran Hwb Croesor/Cyfeillion Croesorhttps://www.youtube.com/watch?v=O9z-iSGMR002019: Trefnu Ysgol Gynhaeaf Llanfrothen a Chroesor: sesiynau dysgu cerddoriaeth gwerin ac iaith yn ogystal a gigs yn Eglwys Sant Brothen, Siop y Garreg a thafarn y Ring, Garreg.2016 – 2020: Sefydlu Hwb Croesor: ar ran Cyfeillion Croesor sydd bellach yn grŵp o dros 30 gwirfoddolwr yn ymroi i drefnu sesiynau celfyddydol a chymunedol yn Hen Bryn Gelynnen, Croesorhttps://www.facebook.com/hwbcroesor