Gwefus…
yn rhoi llais i chi
trwy iaith a ffilm
Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LY | 07443 656271
|
gwefus.cymru@gmail.com |
www.gwefus.com
Dilynwch Ni / Follow us:
Cyrsiau a sesiynau Cymraeg
Dewch i Benrhyndeudraeth i ddysgu Cymraeg
mewn safle hanesyddol.
Mae'r sesiynau yn cael eu cynnal yng nghyn-
ffatri ffrwydron Cooke's, rwan yn hafan i
fywyd gwyllt.
Profiad Cefn Gwlad
Dewch i nabod Cymru trwy fywydau tair Cymraes sy’n byw a bod y
bywyd gwledig.
Dan ni wedi ymuno efo’r ffermwraig Olwen Ford a’r artist Sian Elen
i’ch croesawu chi i Fferm y Llan, Llanfrothen am brofiad cefn gwlad
go iawn.
Yn ystod y profiad undydd neu ddeuddydd byddwch yn cael
cyflwyniad ymarferol i ffermio Cymreig, yr iaith Gymraeg a chelf
Cymreig.
Perffaith ar gyfer grwp o ffrindiau neu deulu.
Am fwy o wybodaeth ac i holi am brisiau, ebostiwch
bywbod@gmail.com
Gwefan: www.byw-bod.cymru
'Cymraeg Cyflym'
Sesiwn 90 mun i bobl sy’n newydd i’r iaith. Gwych i ymwelwyr â’r
ardal neu i unrhyw un sydd newydd symud i Gymru.
Pris: £35 (am un person, ychwanegwch £5 am bob person
ychwanegol)
•
NABOD YR ARDAL
•
LLE LLAWN CHWEDLAU
•
Y NATUR O’R CWMPAS
Cyrsiau dau fore neu ddiwrnod llawn sy’n edrych ar y themau uchod.
Perffaith i rai sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg am 6 mis neu fwy. Bob
lefel ar gael. Gellir hefyd teilwra cwrs unigryw i chi’n adolygu patrymau
cyffredin a magu hyder.
Pris: £100 (un-i-un), £150 (am ddau berson).
Holwch am brisiau grwp a dyddiadau.
CYRSIAU CYMRAEG AR-LEIN
Mae cwmni Gwefus wedi bod yn rhoi cyrsiau preifat ar-lein ers 8 mlynedd
bellach!
Maen nhw’n boblogaidd iawn, felly mae llefydd yn brin, ond croeso i chi
gysylltu i holi!